A cabeleira multilingüe

 

Rhisiart Hincks | Galés

Y Tresi
(Darnau)

Fe’m ganed mewn gwlad werdd ym mhen draw’r byd a ddilynai igam-ogam yrroedd o wartheg.
Mab ansicr wyf i lwythau crwydrol na safasant ond wedi cyrraedd pen draw eu tir.
Nid oes gennyf wreiddiau ond rhai’r sbôr na mamwlad ond y gwynt.
Teimlaf yn un â’r hil honno o grwydriaid na sefydlasant wladwriaeth.
Adwaenai ein hysbryd yr affwys a synnwyr daearol y cynefin naturiol.
Bod yn bobl a gollodd ei seren ac a ymygymysgodd â’r ychen yw ein hanes ni.
Ond yng nghanol y llongddrylliad cefais eto Seren y Gogledd yn llithro yn synhwyrus o wallt y lloer.
Ac y mae tresi di-ben-draw’r lloer yn labrinth lle na siaradaf ond â’r un a garaf.

(Cyfieithiad Cymraeg gan Risiart Hincks)